Fe wnaeth côr o ardal Bangor ennyn canmoliaeth wresog gan Simon Cowell a thri beirniad arall y sioe dalent Britain’s Got Talent dros y penwythnos.

Roedd tri chôr Ysgol Glanaethwy – y Côr Iau, Côr Hyn a Chôr Aethwy – wedi uno i greu côr enfawr o 162 o aelodau i ganu ‘Benedictus’ ar y llwyfan.

Ar ôl cymeradwyaeth fyddarol gan y gynulleidfa, fe ddywedodd Simon Cowell bod safon y côr yn ddigon i ennill y sioe.

‘Afreal’

Wrth siarad am y profiad ar Radio Cymru y bore ma, dywedodd arweinydd y côr Cefin Roberts fod y profiad yn un “afreal” a “swreal iawn”.

“Doedden ni methu credu ein bod ni yno. Roedd yr adwaith gan y gynulleidfa yn grêt hefyd, fe wnaethon nhw gymeradwyo ynghanol y darn.

“Mae bob cystadleuydd gafodd fynd ymlaen yn cael aros i glywed os ydyn nhw’n cael mynd ymlaen i’r rowndiau cyn derfynol.”

Pan ofynnwyd pam eu bod wedi dewis y gân ‘Benedictus’, dywedodd Cefin Roberts:  “Dw i yn mwynhau sŵn y côr mawr ac rydym ni’n mwynhau cerddoriaeth Karl Jenkins. Roeddwn i hefyd yn meddwl bod y gân yn rhywbeth gwahanol i’r hyn sydd fel arfer i’w glywed ar BGT.

“Fe ddywedodd Simon ei fod o’n mwynhau gwrando ar gorau o Gymru ac roedd hynny’n wych i’w glywed – yn beth da iawn i gorau o Gymru hefyd.”

Ers i Cefin a Rhian Roberts sefydlu ysgol Glanaethwy yn 1990, mae’r côr wedi cael llwyddiant mewn sawl cystadleuaeth yng Nghymru a thu hwnt gan gynnwys rhaglen Last Choir Standing ar y BBC.