Mae dwy ddamwain ffordd yn China wedi lladd 33 o bobol, ac anafu wyth arall.
Fe blymiodd bws dros ddibyn ar ffordd yn ardal Nayong yn nhalaith dde-orllewinol Guizhou, gan ladd 21 o bobol ac anafu tri. Fe syrthiodd y cerbyd bron i 100 llath i mewn i wely afon.
Yn y cyfamser, yn ardal Kangle yn nhalaith Gansu yng ngogledd-orllewin y wlad, fe fu cerbyd fferm mewn gwrthdrawiad wrth droi ar lôn wledig. Lladdwyd 12 o bobol yn y digwyddiad, ac fe anafwyd pump.
Mae’r ddwy ddamwain yn parhau i fod yn destun ymchwiliad.