Mae cyfyngiadau cyflymder newydd yn cael eu cyflwyno fory a fydd yn ei gwneud hi’n gyfreithlon i lorïau trymion deithio ynghynt ar ffyrdd yng Nghymru a Lloegr.

Mae’r symudiad wedi cael croeso mawr gan yrwyr lorïau… ond mae ymgyrchwyr diogelwch ar y ffyrdd yn feirniadol iawn.

O dan y rheolau newydd, fe gaiff lorïau ‘Heavy Goods’ dros 7.5 tunnell deithio ar 50 milltir yr awr (yn lle 40) ar ffyrdd llai, ac fe fyddan nhw’n cael gwneud 60 milltir yr awr (yn hytrach na 50) ar ffyrdd deuol.

Mae’r awdurdodau yn dweud fod y rheolau cyflymder presennol wedi’u pennu yn y 1960au, a bod technoleg lorïau wedi gwella’n sylweddol ers hynny. Ond mae ymgyrchwyr diogelwch ar y ffyrdd yn rhybuddio y gallai arwain at fwy o ddamweiniau difrifol.