Mae Heddlu’r West Midlands heddiw’n apelio am wybodaeth, wedi i wraig 93 blwydd oed gael ei tharo gan gar. Fe fethodd y car â stopio wedi’r gwrthdrawiad.
Mae Isobel Rawes yn parhau yn yr ysbyty wedi’r ddamwain yn Shirley, West Midlands ar Fawrth 24. Roedd hi’n croesi’r lôn yn Stratford Road toc cyn hanner dydd, pan gafodd ei tharo.
“Fe fethodd y gwrrwr â stopio,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu, “ac fe adawodd y ddioddefwraig yn gorwedd ar lawr ar y briffordd. Fe aeth y cerbyd yn ei flaen i gyfeiriad traffordd yr M42.
“Ar ôl astudio’r lluniau o gamerâu cylch cyfyng, rydyn ni wedi gallu adnabod y car fel Chrysler Voyager lliw arian,” meddai’r llefarydd wedyn. “Fe fyddech chi’n disgwyl peth difrod i du blaen y car, ar ochr y teithiwr.”