David Cameron
Yn ei neges Basg, mae David Cameron wedi canmol “yr Eglwys” am fod “yn rym cymdeithasol sy’n gwneud gwaith da” gyda phobol dlawd a phobol dan anfantais.

Mae’r Prif Weinidog yn falch o gael dweud ei fod yn byw mewn gwlad Gristnogol, meddai wedyn, cyn ymuno â’r Pab yn ei gondemniad o’r erlid sy’n digwydd ar Gristnogion ledled y byd.

Heddiw, mae tridiau o alaru swyddogion yn dechrau yng Nghenia, wedi i 148 o bobol gael eu lladd mewn ymosodiad gan Islamwyr eithafol ar brifysgol yn y wlad.

“Mae’r Pasg yn adeg i edrych ar y rôl y mae Cristnogaeth yn ei chwarae yn ein bywyd cenedlaethol,” meddai David Cameron. “Nid casgliad o adeiladau hardd yn unig ydi’r Eglwys; mae’n rym bywiog sy’n gwneud gwaith da ledled y wlad.

“Pan mae pobol yn ddigartre’, mae’r Eglwys yno gyda bwyd poeth a chysgod. Pan mae pobol yn gaeth neu mewn dyled; pan mae pobol yn diodde’, neu’n galaru, mae’r Eglwys yno iddyn nhw.

“Ledled Prydain, nid siarad am garu eu cymdogion y mae Cristnogion… maen nhw’n gwneud hynny, mewn ysgolion ffydd, mewn carchardai, mewn grwpiau cymunedol.

“A dyna pam ydw i’n falch o ddweud y dylen ni i gyd fod yn falch o ddweud: gwlad Gristnogol ydi hon.”