Leanne Wood
Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, heddiw wedi croesawu canfyddiadau arolwg newydd gan Ipsos MORI o bron i 1,800 o bobl ar gyfer melin drafod yr Health Foundation.
Canfu’r arolwg fod 85% yn meddwl y dylid gwarchod y GIG rhag toriadau – yn sylweddol yn fwy na gwasanaethau cyhoeddus eraill. Pan ofynnwyd sut y dylid talu am hyn, yr oedd y mwyafrif (59%)yn cefnogi codiadau mewn trethi.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood: “Mae ein gwasanaeth Iechyd Gwladol yn werthfawr ac y mae’n hanfodol ei warchod rhag preifateiddio a’i gadw’n rhad ac am ddim ar bwynt ei gyflwyno.
“Mae Plaid Cymru yn gwrthod yn llwyr unrhyw symudiadau i breifateiddio’r GIG. Ni ddylem fyth roi pris ar allu pobl i gael y gofal iechyd mae arnynt ei angen.
“Dyna pam y dylid gwarchod cyllidebau ar gyfer y GIG, a chodi’r arian trwy drethi cyffredinol.”