Daeth cannoedd o bobl ynghyd yng Nghaerdydd ddoe i alw am ragor o rymoedd i’r Cynulliad.
Y brif neges oedd apêl i’r pleidiau gwleidyddol wireddu dyheadau pobol Cymru trwy roi i’r wlad gael yr un pwerau â’r Alban.
Dywedodd Iestyn Rhobert ar ran Yes Cymru, trefnwyr y rali: “Mae pwy sy’n rhedeg Cymru yn rhy bwysig i’w adael i wleidyddion yn unig. Ar ein hysgwyddau ni mae’r cyfrifoldeb dros ddyfodol Cymru yn gorwedd. Allwn ni ddim gadael i Gymru gael ei gadael ar ôl.
“Mae’n amser am chwarae teg i’n gwlad. Dylen ni, bobl Cymru, gael y grymoedd i reoli ein tir a’n dŵr ynghyd â phwy sy’n tyllu oddi tano fe,” meddai wedyn. “Y pwerau i redeg ein heddlu a’n llysoedd. Y gallu i benderfynu ar ddarlledu, polisïau trethu a lles.”
Yn ôl arolwg barn YouGov a gyhoeddwyd gan Yes Cymru y llynedd, mae 63% o bobol Cymru eisiau gweld Cynulliad Cymru yn cael yr un pwerau newydd â’r Alban.