Mae’r motobeiciwr a gafodd ei ladd mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A483 ym Mhowys ddoe, wedi’i enwi.

Roedd David Stevenson yn 66 oed, ac yn dod o Landrindod.

Pan ddigwyddodd y ddamwain, roedd yn cymryd rhan mewn taith feiciau modur flynyddol y Pasg gyda’i glwb lleol. Bu mewn gwrthdrawiad â char Renault Clio ar y ffordd ger Llanddewi, a bu farw yn y fan a’r lle. Roedd hynny toc wedi 11.30yb.

Er i ddwy ddynes, oedd yn teithio yn y car, gael eu cludo i’r ysbyty, chawson nhw ddim eu hanafu yn y digwyddiad.