Mils Muliaina
Mae cyn-chwaraewr rygbi’r Crysau Duon wedi’i ryddhau ar fechnïaeth, ar ôl cael ei arestio fel rhan o ymchwiliad i ymosodiad rhyw yng Nghaerdydd fis diwetha’.

Fe gafodd Mils Muliaina, 34, ei gymryd i’r ddalfa yn dilyn gêm Connacht yn erbyn Caerloyw nos Wener, a’i drosglwyddo i Heddlu De Cymru.

Mae Heddlu De Cymru bellach wedi rhyddhau datganiad yn dweud fod dyn 34 oed o Galway yng Ngweriniaeth Iwerddon wedi’i arestio ac yna’i ryddhau ar fechnïaeth tra bod yr ymchwiliad yn parhau.