Wrecsam 4–0 Alfreton
Sgoriodd Wrecsam bedair gôl wrth roi cweir i Alfreton ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.
Connor Jennings, Jay Harris ac Andy Bishop (2) oedd y sgoriwyr mewn buddugoliaeth hynod gyfforddus.
Roedd y Dreigiau dair gôl ar y blaen cyn hanner amser. Aethant ar y blaen wedi deunaw munud gyda chynnig taclus Jennings o groesiad Steve Tomassen.
Dyblodd foli Harris y fantais toc wedi hanner awr cyn i Bishop ychwanegu’r drydedd bum munud cyn yr egywl.
Arafodd y sgorio yn yr ail hanner ond fe lwyddodd Bishop i rwydo ei ail ef a phedwaredd ei dîm hanner ffordd trwy’r ail gyfnod i gwblhau buddugoliaeth gyfforddus.
Mae’r canlyniad yn codi Wrecsam i’r pedwerydd safle ar ddeg yn nhabl Cyngres Vanarama.
.
Wrecsam
Tîm: Coughlin, Smith, Tomassen, Harris (Roper 88′), Stephens, Hudson, Finley, Keates (Storer 69′) Bishop, Jennings, Clarke (Evans 55′)
Goliau: Jennings 19’, Harris 32’, Bishop 40’, 66’
Cardiau Melyn: Jennings 23’, Bishop 24’, Graham 90’
.
Alfreton
Tîm: Flynn, Graham, Howe, Lenighan, Wood, Rowe-Turner, Bradley, Thanoj (Phillips 55′), Johnston (Shaw 76′), Ironside (Speight 58′), Hawley
Cardiau Melyn: Bradley 23’, Wood 25’