Reading 1–1 Caerdydd
Cipiodd Caerdydd bwynt yn erbyn Reading brynhawn Sadwrn diolch i gôl hwyr Conor McAleny ar y Madejski.
Dechreuodd Chris Gunter a Hal Robson-Kanu y gêm i Reading ac fe ddechreuodd y tîm cartref yn dda gyda gôl gynnar i Pavel Pgrebnyak, y gŵr o Rwsia yn rhwydo wedi i Gareth McCleary benio bêl i’w lwybr.
Doedd dim un Cymro yn nhîm Caerdydd a phrin iawn oedd eu bygythiad tan i McAleny gipio pwynt hwyr gydag ergyd gadarn yn dilyn pas dda Aaron Gunnarsson iddo.
Mae’r canlyniad yn codi Caerdydd i’r trydydd safle ar ddeg yn nhabl y Bencampwriaeth.
.
Reading
Tîm: Federici, Gunter, A.Pearce, Hector, Obita, McCleary (Norwood 74′), Aké, Akpan, Robson-Kanu (Blackman 85′), Mackie (Appiah 68′), Pogrebnyak
Gôl: Pogrebnyak 4’
.
Caerdydd
Tîm: Marshall, Peltier (Malone 84′), Ecuele Manga, Morrison, Fabio, Noone, Whittingham, Gunnarsson, Ralls (Kennedy 65′), Doyle (Mason 65′), McAleny
Gôl: McAleny 90’
.
Torf: 17,953