Mae tim y Dreigiau drwodd i rownd pedwar ola’ Cwpan Her Ewrop, wedi iddyn nhw guro Gleision Caerdydd heddiw ar faes Rodney Parade.
Nic Cudd sgoriodd gynta’ yn yr ail hanner, cyn i Jonathan Evans ennill gic gosb i’r Dreigiau pan anfonwyd Lloyd Williams o’r cae am dynnu ei grys.
Fe sgoriodd Josh Navidi gais i’r Gleision ym mhum munud ola’r gêm… ond doedd hynny ddim yn ddigon.