Abertawe 3–1 Hull

Cafodd Abertawe fuddugoliaeth gymharol gyfforddus wrth i Hull ymweld â’r Liberty brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd Bafetimbi Gomis ddwywaith wrth i’r Elyrch drechu deg dyn yr ymwelwyr.

Ki Sung-yueng sgoriodd gôl arall y tîm cartref a daeth honno ar ôl deunaw munud wedi i Allan McGregor yn y gôl i Hull fethu dal ei afael yn ergyd gadarn Jonjo Shelvey o bellter.

Roedd hi’n ddwy wyth munud cyn yr hanner yn dilyn foli berffaith i’r gornel uchaf gan Gomis.

Tynnodd Hull un yn ôl yn gynnar yn yr ail hanner pan rwydodd Paul McShane yn dilyn cic rydd Jake Livermore.

Ond roedd yr ymwelwyr i lawr i ddeg dyn yn fuan wedyn yn dilyn trosedd wael David Mayler ar Kyle Naughton.

Rheolodd Abertawe’r meddiant wedi hynny ac roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel pan gododd Gomis y bêl yn daclus dros McGregor yn y munud olaf i rwydo’r drydedd gôl a sicrhau’r tri phwynt.

Mae’r canlyniad yn cadw Abertawe’n wythfed yn nhabl yr Uwch Gynghrair.
.
Abertawe
Tîm:
Fabianski, Naughton (Rangel 56′), Fernandez, Williams, Taylor, Ki Sung-yueng, Cork (Dyer 65′), Shelvey (Grimes 90′), Routledge, Gomis, Sigurdsson
Goliau: Ki Sung-yueng 18’, Gomis 37’, 90’
Cerdyn Melyn: Williams 48’
.
Hull
Tîm:
McGregor, Dawson, Bruce (Diamé 70′), McShane, Elmohamady, Ramírez (Quinn 30′), Livermore, Meyler, Brady, N’Doye, Hernández (Aluko 81′)
Gôl: McShane 50’
Cardiau Melyn: Hernandez 47’, N’ Doye 49’, McShane 54’, Bruce 69’, Diame 89’
Cerdyn Coch: Meyler 53’