Mils Muliania - 100 o gapiau dros Seland Newydd
Mae cyn-chwaraewr rygbi’r Crysau Duon wedi’i arestio fel rhan o ymchwiliad i ymosodiad rhyw yng Nghaerdydd fis diwetha’.

Fe gafodd Mils Muliaina ei arestio neithiwr yn syth wedi chwiban ola’r gêm rhwng tim Connacht (y mae’n chwarae iddynt) a Chaerloyw yng Nghwpan Her Ewrop.

Mae Heddlu Sir Gaerloyw heddiw wedi cadarnhau mewn datganiad fod dyn yn ei 30au wedi’i arestio yn Stadiwm Kingsholm neithiwr, a’i fod wedi’i drosglwyddo i swyddogion Heddlu De Cymru.

Fe enillodd Mils Muliaina 100 o gapiau dros Seland Newydd, cyn ymddeol o’r gêm ryngwladol yn 2011.