Rhidian Jones
Rhidian Jones sy’n trafod ergydion i’r pen a George North, ac yn cnoi cil dros ddyfarnwyr teledu yn dilyn gwaharddiad Nick Williams …
Ar ôl dros hanner cant o gapiau rhyngwladol dros Gymru a’r Llewod mae’n rhyfedd meddwl mai ond 22 oed yw George North.
Er bod golwg dyn cydnerth arno, glaslanc yw e o hyd yn y byd rygbi proffesiynol a dyna pam ei fod yn hollbwysig gwarchod ei iechyd ar ôl pedair cnoc gas i’w ben yn y ddeufis diwethaf.
Mae Northampton Saints wedi cadarnhau na fydd yn chwarae tan fis nesaf o leiaf, a hoffwn i ei weld yn cael seibiant tan Gwpan y Byd.
Petai George North yn focsiwr ‒ a byddai’n gwneud heavyweight handi dw i’n siŵr ‒ châi e ddim dychwelyd i’r sgwâr ar ôl KO am o leiaf 45 diwrnod, neu 90 diwrnod dan reolau rhai cymdeithasau bocsio.
Petai’n colli tair ffeit o’r bron drwy KO mae’n bosib na châi e ddychwelyd i’r sgwâr o gwbl.
Angen eglurder
Mae angen eglurder yn y byd rygbi hefyd o achos gall yr ergydion yma i’r pen wneud niwed tymor hir i’r ymennydd, yn enwedig gan fod chwaraewyr wedi mynd yn drymach ac yn gryfach ond eto bod y pen yr un mor agored i niwed â chynt.
Mae’n drueni wrth gwrs i Northampton Saints, sy’n talu cyflog parchus i George, eu bod nhw’n colli’r asgellwr ar adeg bwysicaf y tymor ‒ maen nhw ar frig uwch gynghrair Lloegr ac yn teithio i Clermont-Ferrand yn wyth olaf Cwpan Pencampwyr Ewrop.
Ond mae iechyd chwaraewyr yn bwysicach, a’r clwb sy’n gyfrifol am warchod eu gwas cyflog pan fydd e ar y cae rygbi.
Cafodd maswr Iwerddon Jonny Sexton dri mis i ffwrdd yng nghanol y tymor gan ei glwb Racing Métro, yn sgil cyfarwyddyd newydd gan y Ligue Nationale de Rugby sy’n nodi bod yn rhaid rhoi saib o 12 wythnos i chwaraewr sydd wedi cael pedwar cyfergyd mewn blwyddyn.
Mae George North eisoes wedi cyrraedd y nifer yna.
Gobeithio caiff rheol debyg ei chyflwyno ledled y byd rygbi.
Un cyfergyd = mis i ffwrdd o gae rygbi, yn orfodol, ac yna profion cyn caniatáu i’r chwaraewr ddychwelyd.
Tri chyfergyd mewn cyfnod o naw mis = saib gorfodol o dri mis o gae rygbi, a phrofion.
Dyfarnwyr teledu a disgyblaeth Ulster
Mae cyflwyno dyfarnwyr teledu ym myd rygbi wedi bod yn syniad da iawn, ac mewn byr o dro mae’n anodd dychmygu’r gêm broffesiynol hebddyn nhw.
Ond maen nhw wedi dod yn ffigurau anweledig hynod bwysig wrth i ddyfarnwyr ddibynnu fwyfwy arnyn nhw, weithiau yn groes i’w greddf.
Nos Wener yn Belfast ymgynghorwyd â’r TMO pan aeth Nick Williams o Ulster i mewn â’i fraich i ben Rhys Patchell o’r Gleision.
Dywedodd y TMO fod carden felen yn ddigonol, ond ddydd Mercher rhoddodd bwyllgor disgyblu’r Pro12 waharddiad i’r wythwr tan fis Medi.
Sut bod y TMO yn credu bod rhoi 10 munud yn y gell gosb yn ddigon o gosb, ac yna pwyllgor o’r farn bod angen gwahardd y chwaraewr am weddill y tymor?
Y gynghrair chwarae teg
Dyma’r pedwerydd gwaharddiad i chwaraewyr Ulster yn dilyn gêm gartref yn Ravenhill ‒ chafodd yr un ohonyn nhw eu gweld, neu eu hystyried yn ddigon difrifol, yn ystod y gemau.
Ulster sydd ar waelod cynghrair chwarae teg y Pro12, sy’n gwobrwyo disgyblaeth.
Yn dilyn gêm yn erbyn y Scarlets ym mis Chwefror cafodd dau o chwaraewyr Ulster waharddiad.
Yn achos un o’r gwaharddiadau cyfeiriwyd y mater at y TMO yn ystod y gêm ond am ryw reswm roedd y lluniau a roddodd y darlledwr lleol i’r TMO yn wahanol i’r hyn a ddangoswyd yn fyw, a ddim yn ddigon cyflawn ar gyfer gwneud penderfyniad.
Collodd y Scarlets y gêm o bum pwynt, a chawson nhw ddim elwa o’r ddwy garden goch a roddwyd yn hwyrach i’w gwrthwynebwyr.
Yn y Pro12 mae’r dyfarnwyr yn gorfod dod o wlad wahanol i’r tîm cartref, ond mae’r dyfarnwyr teledu fel arfer yn swyddogion lleol, a nhw sy’n gorfod gwneud y penderfyniadau mawr sy’n newid cwrs gemau.
Wela i ddim problem gyda chael dyfarnwr teledu hollol ddiduedd ‒ os oes y fath beth yn bosibl ‒ mewn stiwdio mewn gwlad arall er mwyn gwneud y penderfyniadau hyn.
Rydym ni’r gwylwyr teledu yn gallu clywed llais y dyfarnwr o gludwch ein lolfa neu’r dafarn neu ble bynnag, a byddai’r un peth yn wir i ddyfarnwr teledu mewn stiwdio yn Llundain/Caeredin/Timbyctŵ.
Byddai hyn yn gam arall gobeithio at gael gemau tecach.