Mae ffermwyr llaeth o tua 16 o wahanol wledydd yn cynnal protest ar strydoedd Brwsel i wrthwynebu cael gwared a chwota llaeth yr Undeb Ewropeaidd.

Pryder y ffermwyr yw bod penderfyniad i sgrapio’r system cwota presennol am olygu bod llaeth mewn archfarchnadoedd yn cael ei werthu am bris hyd yn oed yn is nag y mae ar hyn o bryd.

Roedd system cwota’r Undeb Ewropeaidd, sy’n cael ei sgrapio yfory ar ôl 30 mlynedd, yn fesur i reoli a rhoi cap ar faint o laeth oedd yn cael ei gynhyrchu.

Mae’n dod i ben er mwyn caniatáu i gynhyrchwyr o Ewrop fedru cystadlu hefo cynhyrchwyr o’r Unol Daleithiau ac Awstralia sy’n targedu marchnadoedd yn China a Korea.

Methu fforddio costau

“Pan fydd y cwota yn dod i ben, rydym yn pryderu bod lefel cynhyrchu yn mynd i chwythu’r to ac na fyddwn ni’n medru fforddio talu ein costau mwyach,” meddai’r ffermwyr llaeth Yvan Deknudt ym Mrwsel.

Cafodd y penderfyniad ei gyhoeddi am y tro cyntaf yn 2003 ac mae lefel y cwota wedi bod yn codi yn raddol ers hynny er mwyn i ffermwyr arfer â chynhyrchu mwy o laeth, ond mae pryder am fusnesau llai sydd yn dioddef o’r gostyngiad sylweddol mewn prisiau archfarchnadoedd.

“Dyw hi ddim yn gwneud synnwyr i godi lefel cynhyrchu a dadlwytho llaeth ar wledydd eraill. Bydd yn dinistrio busnesau llai yn Africa ac Ewrop,” meddai llefarydd ar ran y Bwrdd Llaeth Ewropeaidd.