Mae cwpwl priod wedi dianc yn ddianaf, wedi i goeden 20 troedfedd gwympo ar eu cartre’ yn ystod y tywydd stormus.
Fe ddaeth y goeden i lawr y tu blaen i’w cartre’ yn Worsley, Greater Manchester, toc wedi hanner nos neithiwr. Fe lwyddodd y ddau i ddod allan yn ddiogel.
Cafodd gwasanaethau brys Greater Manchester eu galw, ac fe fu’n rhaid iddyn nhw ddefnyddio llif gadwyn i dorri’r goeden a gwneud y safle’n ddioge. Fe fuon nhw wrthi am dair awr.