Mae beth bynnag 15 0 bobol wedi marw mewn lllifogydd yn y rhan o Kashmir sy’n cael ei rheoli gan India.
Fe ddaeth y glaw diweddara’ gwta chwe mis wedi’r llifogydd gwaetha’ erioed mewn hanner canrif.
Fe gadarnhaodd yr heddlu fod gweithwyr achub wedi tynnu cyrff 15 o weddilion dau gartre’ yn ardal Budgam. Mae’r chwilio’n parhau am blentyn chwe blwydd oed sy’n dal yn sownd yn y mwd.
Er bod y dwr yn cilio, mae pobol yn ninas Srinagar yn eu paratoi eu hunain wrth i’r swyddfa dywydd addo mwy o law dros y dyddiau nesa’.