Mae gyrrwr pic-yp a aeth ar ei ben i dalcen ty yn Utah, wedi cyfadde’ yfed 36 o ddiodydd o gwrw, a defnyddio cocen, cyn gyrru.
Mae’r datganiad gan Bernabe Urcino-Saldago yn dweud wrth yr heddlu beth yn union yr oedd wedi’i gymryd. Fe wnaeth y datganiad wedi methu prawf sobrwydd yn gynnar fore ddoe.
Fe gafodd y dyn 39 oed ei arestio ar amheuaeth o yrru o dan ddyanwad, o achosi gwrthdrawiad trwy fod yn esgeuus, ac o yrru heb drwydded.
Chafodd neb ei anafu yn y ddamwain yn un o ardaloedd gorllewinol Salt Lake City, ger Parc Rosewood.