Mae ymchwil newydd gan Amgueddfa Tŷ Anne Frank yn Amsterdam yn awgrymu bod yr Iddewes wedi marw ynghynt na’r hyn sydd wedi cael ei feddwl yn wreiddiol.
Cafodd yr ymchwil ei gyhoeddi heddiw – 70 mlynedd i’r diwrnod swyddogol lle credir ei bod hi a’i chwaer Margot wedi marw yng ngwersyll Bergen-Belsen.
Cafodd y dyddiad swyddogol ei bennu gan awdurdodau’r Iseldiroedd wedi i’r Ail Ryfel Byd orffen.
Ond mae’r ymchwilwyr Erika Prins a Gertjan Broek yn dweud ei bod hi’n debygol bod y ddwy wedi marw o afiechyd teiffws ym mis Chwefror 1945.
Mae dyddiadur Anne Frank am ei bywyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd wedi ennill cyhoeddusrwydd rhyngwladol ac mae hi’n cael ei gweld fel symbol i’r dioddefaint yn ystod yr Holocost.
Mae’r ymchwil newydd wedi ei seilio ar ddogfennau, cyfweliad newydd a chyfrifon llygad dystion cyn y bu i Anne Frank farw yn 15 oed.