Aidan Brunger y tu allan i ysbyty yn Borneo, cyn cael ei lofruddio
Mae llys ym Malaysia wedi penderfynu bod dyn 23 oed yn euog o lofruddio dau fyfyriwr meddygol o Loegr ar ynys Borneo fis Awst diwetha’.

Cafodd Neil Dalton o Derbyshire a Aidan Brunger o Gaint, y ddau yn 22 oed ac yn fyfyrwyr meddygol ym Mhrifysgol Newcastle, eu lladd yn Sarawak. Roedden nhw’n gweithio am gyfnod mewn ysbytai yn ninas Kuching.

Mae’n debyg bod y ddau wedi cael eu trywanu i farwolaeth yn dilyn dadl mewn bar.

Cafwyd y gwerthwr pysgod Zulkipli Abdullah yn euog o’r drosedd mewn Uchel Lys ac mae wedi cael ei ddedfrydu i farwolaeth.

Clywodd y llys fod wedi dweud wrth ffrindiau ei fod am “brofi ei gryfder” yn erbyn ymwelwyr talach na fo cyn mynd ar ôl y ddau ddyn.

‘Ymosodiad direswm’

Mewn datganiad, dywedodd rhieni Neil Dalton ac Aidan Brunger: “Roedd y ddau yn bobol arbennig gyda chymaint o addewid o’u blaenau. Mae eu marwolaethau wedi chwalu ein bywyd ni fel teulu.

Digwyddodd yr ymosodiad direswm hwn wrth iddyn nhw gerdded adref ar ôl noson allan ac mae’n golygu na chawn nhw fyth y cyfle i ofalu a helpu eraill. Rydym yn falch iawn ohonyn nhw a’r hyn wnaethon nhw’i gyflawni yn eu bywydau byr.”