Arlywydd Cenia, Uhuru Kenyatta
Mae arlywydd Kenya w edi gwahardd pedwar o weinidogion y llywodraeth o’u gwaith, ynghyd a 17 o brif swyddogion eraill tra bod ymchwiliad yn digwydd i honiadau o dwyll.

Mewn datganiad gan yr Arlywydd Uhuru Kenyatta, mae’r swyddogion wedi’u henwi mewn adroddiad cyfrinachol gan Gomisiwn yn y wlad sy’n ceisio dileu gweithredu anfoesol a llwgr.

Ond mae ymgyrchwyr yn y wlad wedi ymateb yn ofalus i’r digwyddiadau, gan ddweud fod uwch swyddogion sydd wedi’u cael yn euog yn y gorffennol o weithredu’n llwgr, wedi’u hail-benodi wedyn.

Mae mudiad Transparency International, yn ei adroddiad ar lygredd yng ngwledydd y byd yn 2014, yn rhoi cyfri’ gwael o Kenya, gan osod y wlad yn safle rhif 145 allan o 175 o wledydd y byd.