Jann Mardenborough - profion wedi'r ddamwain
Mae gyrrwr rasio o Gaerdydd wedi bod mewn damwain ar drac rasio yn Yr Almaen heddiw.

Fe gafodd gwyliwr ei ladd ar ymyl trac Nurburgring, lle’r oedd Jann Mardenborough, 23, yn gyrru. Mae cwmni ceir Nissan wedi cadarnhau mewn datganiad fod nifer o bobol wedi’u hanafu hefyd.

Mae Jann Mardenborough, sy’n hanu o ardal Trelai yn y brifddinas, wedi cael ei gludo i’r ysbyty i gael profion yn dilyn y digwyddiad.

Mae ymchwiliad ar y gweill i geisio sefydlu sut digwyddodd i’r Cymro golli rheolaeth ar ei gar Nissan GTR a gadael y trac.