Mae 14 o bobol wedi cael eu lladd yn dilyn dau ffrwydrad y tu allan i eglwysi Catholig yn Lahore ym Mhacistan.
Cafodd 48 o bobol eu hanafu yn y digwyddiad.
Digwyddodd y ddau ffrwydrad yn agos iawn i’w gilydd yn Youhana Abad tra bod gwasanaeth yn cael ei gynnal yn yr adeiladau.
Mae’r heddlu’n ymchwilio i’r ffrwydradau er mwyn darganfod a gafodd bom ei osod neu ei ffrwydro gan hunan-fomiwr.
Y Taliban ym Mhacistan sydd wedi hawlio’r cyfrifoldeb, a gwnaeth y dorf y tu allan i’r eglwys ymosod ar ddau unigolyn roedden nhw’n eu hamau o fod wedi achosi’r ffrwydrad, gan ladd un ohonyn nhw drwy ei roi ar dân.
Roedd dau blismon ymhlith y rhai fu farw.
Hwn yw’r ymosodiad diweddaraf o blith nifer ar adeiladau crefyddol ym Mhacistan, ac mae’r Taliban wedi rhybuddio bod rhagor o ymosodiadau’n debygol.