Mae’r gyrrwr lori oedd wedi taro’r cyn-bêldroediwr Clarke Carlisle ar ffordd brysur yng Nghaerefrog wedi dweud ei bod hi’n bosib na fydd e’n gyrru byth eto.
Dywedodd Darren Pease wrth bapur newydd y Sunday Mirror ei fod yn credu ar y pryd ei fod e wedi lladd Carlisle, oedd wedi neidio o flaen ei lori 12 tunnell ar ffordd A64 y llynedd.
Treuliodd Carlisle, 35, gyfnod hir yn yr ysbyty ag anafiadau difrifol, ac fe ddatgelodd yn ddiweddarach ei fod yn teimlo’r angen i farw ar ôl colli ei swydd fel pyndit ar ITV.
Cyn cael ei daro, roedd Carlisle wedi bod yn yfed yn drwm, ac fe gafodd ei stopio gan yr heddlu am yfed a gyrru.
Dywedodd Darren Pease: “Y cyfan allwn i feddwl amdano fe oedd fy mod i wedi lladd rhywun.
“Sut ydw i’n mynd i fyw gyda hyn? Beth fydda i’n dweud wrth bawb? Beth ydych chi’n ei ddweud? Mae’n afreal, roedd y sioc yn golygu na allwn i sefyll na cherdded, ro’n i mewn cadair olwyn.
“Fe dreuliais i’r Nadolig yn meddwl a fyddai’r dyn yn goroesi. Do’n i ddim yn credu y byddai. Rwy’n dal i feddwl ei bod yn wyrth ei fod e wedi goroesi, ac na chafodd unrhyw un ei ladd y bore hwnnw.
“Alla i ddim disgrifio’r teimlad – meddwl eich bod chi’n mynd i farw.
“Dw i ddim yn credu y gallwn i fynd y tu ôl i lyw lori byth eto.”
Mae Darren Pease i ffwrdd o’i waith ar hyn o bryd, ac mae’n derbyn triniaeth am straen ôl-trawma.
Mae Clarke Carlisle yn parhau i wella gartref.