Bydd tîm rygbi merched Cymru’n creu hanes heddiw wrth i’w gêm yn erbyn Iwerddon ar faes Sain Helen gael ei dangos yn fyd-eang ar y we.
Bydd modd gwylio’r gêm ar www.s4c.cymru, ac mae’r gic gyntaf am 12 o’r gloch.
Dyma’r darllediad chwaraeon cyntaf o’i fath, er i S4C ddangos y Sioe Frenhinol ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn fyw ac yn fyd-eang ar y we yn y gorffennol.
Dim ond sylwebaeth Saesneg fydd ar gael yn fyd-eang ar gyfer y darllediad sydd wedi’i sicrhau drwy gydweithrediad S4C â chynhyrchwyr y rhaglen, HMS ac Undeb Rygbi Cymru.
Bydd uchafbwyntiau’r gêm i’w gweld ar raglen ‘Clwb’ ar S4C.
Dywed Golygydd Chwaraeon S4C, Sue Butler, “Mae hon yn garreg filltir ddarlledu bwysig i S4C, am nad ydym ni wedi darlledu gêm rygbi i gynulleidfa drwy’r byd, ar-lein, o’r blaen.
“Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn gallu cynnig y fath ddarpariaeth ar gyfer gêm sydd mor bwysig, gan ei bod hi’n bosib y bydd merched Cymru yn cipio’r Goron Driphlyg ar ddiwedd y gêm.
“Rydym wrth ein bodd i groesawu gwylwyr o bedwar ban byd i fwynhau’r darllediad yma, a fydd ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg.”
Y Bencampwriaeth
Mae tîm merched Cymru wedi ennill dwy gêm hyd yma, gan guro pencampwyr y byd, Lloegr a’r Alban, gan golli mewn gêm agos yn erbyn Ffrainc.
Bydd sylwebaeth y gêm ar gyfer y darllediad byw ar-lein gan Alun Jenkins a chyn-gapten a chefnwr Cymru, Non Evans yn y Gymraeg, gyda’r cyn chwaraewr rhyngwladol Andy Moore a Gêmma Hallett yn rhoi’r sylwebaeth Saesneg.
Dywedodd Non Evans, “Dw i wrth fy modd i fod yn rhan o ddarllediad mor hanesyddol a gobeithio bydd tîm menywod Cymru yn gallu dangos i’r byd gystal ydyn nhw.
“Mae tîm merched Cymru wedi bod yn agoriad llygad y tymor hwn, yn enwedig wrth guro pencampwyr y byd, Lloegr.
“Roedden nhw’n anlwcus iawn i golli yn erbyn Ffrainc o flaen 12,000 o gefnogwyr angerddol.
“Dw i’n credu bod gan Gymru obaith realistig i godi’r Goron Driphlyg a thrwy hynny, mynd yn eu blaen i ddatblygu’n rym rhyngwladol sylweddol.”