Y Seintiau Newydd 3–0 Y Bala
Cododd Y Seintiau Newydd dlws newydd Uwch Gynghrair Cymru ar ôl trechu’r Bala ar Neuadd y Parc nos Sadwrn.
Rhwydodd Adrian Cieslewicz a Matty Williams (2) wrth i’r deiliaid gadw eu gafael ar y teitl gyda buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn y Bala.
Rheolodd y Seintiau o’r dechrau a bu rhaid i Ashley Morris fod ar flaenau’i fysedd i arbed cic rydd Chris Marriott wedi deuddeg munud.
Fu dim rhaid i’r tîm cartref aros yn hir cyn mynd ar y blaen serch hynny, wrth i Cieslewicz benio cic gornel Marriott i gefn y rhwyd funud yn ddiweddarch.
Felly yr arhosodd hi tan hanner amser ond y Seintiau oedd y tîm gorau wedi’r egwyl hefyd ac fe brofodd dwy gôl Williams hynny.
Daeth y gyntaf pan darodd croesiad Jamie Mullan yn ei erbyn wedi 55 munud a’r ail pan wyrodd groesiad Simon Spender i gefn y rhwyd ar y cynnig cyntaf ddeunaw munud o’r diwedd.
Prin iawn oedd cyfleoedd y Bala er y dylai Ian Sheridan fod wedi sgorio gôl gysur i’r ymwelwyr, ond doedd hi ddim i fod, 3-0 y sgôr terfynol.
Mae’r fuddugoliaeth yn sicrhau nawfed pencampwriaeth i’r Seintiau, pedwaredd yn olynol. Mae’r Bala ar y llaw arall yn yn drydydd, gyda phum gêm i fynd.
.
Y Seintiau Newydd
Tîm: Harrison, Spender, Baker, Rawlinson, Marriott, K. Edwards, A. Edwards (Seargeant 66’), Mullan, Williams, Cieslewicz (Quigley 76’), Wilde (Draper 80’)
Goliau: Cieslewicz 13’, Williams 55’, 73’
.
Y Bala
Tîm: Morris, Valentine, Artell, Bell, Smith (Parle 78’), Murtagh, Lunt (Brown 65’), Jones, Pearson, Sheridan, Hunt (Hayes 63’)
Cardiau Melyn: Brown 75’, Valentine 77’