Altrincham 1–4 Wrecsam

Cafodd Wrecsam ganlyniad da brynhawn Sadwrn wrth drechu Altrincham yn y Gyngres oddi cartref ar Moss Lane.

Sgoriodd y Dreigiau dair gôl mewn hanner cyntaf da cyn gwneud digon i sicrhau’r tri phwynt yn yr ail hanner.

Rhoddodd Keiron Morris y Cymry ar y blaen gyda foli berffaith wedi saith munud yn unig ond bu rhaid aros tan ddiwedd yr hanner cyn ychwanegu dwy arall.

Daeth yr ail a thrydedd o fewn munudau i’w gilydd ychydig cyn yr egwyl, dau beniad gan Ross White a Louis Moult.

Tynnodd James Lawrie un yn ôl i’r tîm cartref ond Wrecsam a Connor Jennings a gafodd y gair olaf bum munud o’r diwedd.

Mae’r canlyniad y codi Wrecsam dros Altrincham i’r pedwerydd safle ar ddeg yn nhabl Cyngres Vanarama.
.
Altrincham
Tîm:
Coburn, Havern, Leather, Crowther (Clee 70′), Griffin, Moult, Cavanagh, Densmore (Williams 10′), Reeves, Lawrie, Perry (Sinnott 71′)
Gôl: Lawrie 51’
Cardiau Melyn: Lawrie 43’, Moult 87’
.
Wrecsam
Tîm:
Coughlin, Carrington, Smith, Evans (Harris 56′), Clarke, Hudson, Storer (Finley 65′), White, Jennings (York 89′), Morris, Moult
Goliau: Morris 7’, White 40’, Moult 44’, Jennings 85’
Cardiau Melyn: Jennings 75’, Clarke 83’
.
Torf: 1,525