Brentford 1–2 Caerdydd

Tarodd Caerdydd yn ôl i drechu Brentford yn y Bencampwriaeth ar Barc Griffin brynhawn Sadwrn.

Aeth y tîm cartref ar y blaen yn yr hanner cyntaf ond cipiodd Caerdydd y tri phwynt gyda dwy gôl ail a hanner, y naill i Federico Macheda a’r llall i Alex Revell. Gorffennodd Caerdydd y gêm gyda naw dyn hefyd, yn dilyn dau gerdyn coch.

Rhoddodd Andre Gray y tîm cartref ar y blaen wedi ychydig llai na hanner awr yn dilyn camgymeriad gan gôl-geidwad Caerdydd. Methodd Simon Moore gadw ei afael ar gic rydd Alex Pritchard ac roedd Gray wrth law i rwydo.

Camgymeriad gôl-geidwad oedd yn gyfrifol am gôl Macheda i unioni’r sgôr yn gynnar yn yr ail gyfnod hefyd, gwrthdarodd David Button gyda’i amddiffynnwr ac roedd Macheda wrth law i sgorio.

Yna, cafodd Button ei ddal oddi ar y llinell wrth i Revell godi’r bêl drosto i roi Caerdydd ar y blaen.

Daliodd yr Adar Gleision eu gafael ar y fuddugoliaeth wedi hynny, er iddynt fynd lawr i ddeg dyn yn dilyn cardiau coch i Kadeem Harris a Macheda.

Mae’r canlyniad yn codi Caerdydd un lle i’r pedwerydd safle ar ddeg yn nhabl y Bencampwriaeth.

.
Brentford
Tîm:
Button, Odubajo, Dean, Tarkowski, Bidwell (Smith 82′), Douglas, Diagouraga (Judge 66′), Peleteiro Ramallo, Pritchard, Dallas (Toral 79′), Gray
Gôl: Gray 28’
.
Caerdydd
Tîm:
Moore, Peltier (Ralls 12′), Ecuele Manga, Morrison, Fabio, Kennedy (Harris 45′), Gunnarsson, Whittingham, Noone, Macheda, Revell (Jones 75′)
Goliau: Macheda 53’, Revell 68’
Cardiau Melyn: Morrison 27’, Macheda 42’, Wittingham 58’
Cardiau Coch: Harris 78’, Macheda 89’
.
Torf: 11,217