Cymru 23–16 Iwerddon

Mae Cymru yn y ras am Bencampwriaeth y Chwe Gwlad o hyd yn dilyn buddugoliaeth wych yn erbyn Iwerddon yn Stadiwm y Mileniwm brynhawn Sadwrn.

Scott Williams sgoriodd unig gais Cymru ond ymdrech amddiffynnol anhygoel oedd yn gyfrifol am y canlyniad.

Dechreuodd Cymru ar dân ac reoddynt ddeuddeg pwynt ar y blaen wedi chwarter awr diolch i gicio cywir Leigh Halfpenny, pedair cic gosb i’r cefnwr gan gynnwys un mynydd o gic o’r llinell hanner.

Sgoriodd Jonathan Sexton bwyntiau cyntaf yr ymwelwyr wedi hynny cyn i Gymru orfod chwarae heb eu capten, Sam Warburton, am ddeg munud yn dilyn trosedd wyrion yn ardal y dacl.

Ymdopodd Cymru’n dda serch hynny ac er iddynt ildio chwe phwynt arall i droed Sexton ar ffurf ciciau cosb fe lwyddodd Dan Biggar gyda gôl adlam hefyd, gan olygu fod Cymru chwe phwynt ar y blaen ar yr egwyl, 15-9 y sgôr.

Dechreuodd Iwerddon yr ail hanner yn dipyn gwell ac amddiffyn arwrol Cymru’n unig wnaeth eu hatal rhag croesi yn chwarter awr cyntaf yr ail hanner.

Cafodd Cymru gyfnod da wedi hynny a’r gwahaniaeth mawr oedd iddynt hwy lwyddo i sgorio. Yr eilydd, Scott Williams, oedd y sgoriwr, yn manteisio ar gamgymeriad prin yn llinell amddiffynnol y Gwyddelod.

Cafwyd camgymeriad prin arall wrth i Halfpenny fethu’r trosiad ac yn ôl y daeth yr Iwerddon. Roedd y pwysau cyson yn ormod yn y diwedd wrth i gais cosb i’r ymwelwyr ddeillio o sgarmes symudol, a phedwar pwynt yn unig oedd ynddi wedi trosiad Sexton.

Rhoddodd pumed cic gosb lwyddiannus Halfpenny Gymru saith pwynt ar y blaen a daliodd amddiffyn y Cochion yn ddewr tan y diwedd i sicrhau buddugoliaeth dda.

Main iawn yw gobeithion Cymru o godi tlws Pencampwriaeth y Chwe Gwlad o hyd, er gwaethaf y canlyniad gwych hwn. Wedi i Loegr guro’r Alban bydd tri thîm yn gyfartal ar chwech o bwyntiau ac mae gwahaniaeth pwyntiau Lloegr a’r Iwerddon yn well na Chymru gydag un gêm ar ôl.
.
Cymru
Cais:
Scott Williams 61’
Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 3’, 8’, 12’, 14’, 74’
Gôl Adlam: Dan Biggar 34’
Cardiau Melyn: Sam Warburton 28’, Jonathan Davies 77’
.
Iwerddon
Ceisiau:
Cais Cosb 68’
Trosiadau: Jonathan Sexton 68’
Ciciau Cosb: Jonathan Sexton 18’, 30’, 37’