Mae hofrennydd filwrol o Serbia wedi plymio i’r ddaear ger dinas Belgrade, tra’r oedd hi’n cario babi bach sâl o dde’r wlad. Mae’r saith o bobol oedd ar ei bwrdd, wedi’u lladd.
Fe ddigwyddodd y ddamwain yn hwyr neithiwr ger maes awyr rhyngwladol Belgrade, 18 milltir i’r gorllewin o’r brifddinas.
Mae adroddiadau ar deledu’r wlad yn dweud fod yr hofrennydd MI-17, o wneuthuriad Rwsiaidd, yn cario dau weithiwr iechyd, babi bach pum niwrnod oed, ynghyd â chriw o bedwar.
Fe ddigwyddodd y ddamwain mewn tywydd niwlog. Cafodd nifer o’r awyrennau masnachol oedd yn ceisio glanio yn y maes awyr neithiwr, eu dargyfeirio i lefydd eraill oherwydd fod amodau mor wael.