David Cameron - "ymchwiliad ar y gweill"
Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi cydnabod bod mwy na dau ddwsin o bobol oedd yn cael eu hamau o fod yn aelodau o’r mudiad terfysgol, Boko Haram, wedi marw tra yn y ddalfa ddiwedd y llynedd.

Fe ddaethpwyd o hyd i’r 25 o bobol yn farw yn eu cell ddiwrnod wedi iddyn nhw gael eu harestio ym mis Rhagfyr. Roedden nhw’n rhan o grwp o 56 o bobol oedd wedi’u harestio, ac mae achos eu marwolaeth yn dal i fod yn destun ymchwiliad.

“Gallaf ddweud yn bendant ar hyn o bryd nad oes gan yr ymchwiliad le i gredu fod yr un o’r rhain wedi cael ei ladd yn fwriadol,” meddai llefarydd ar ran llywodraeth San Steffan.

Ychwanegodd y llefarydd bod un uwch swyddog yn y fyddin wedi cael ei symud o’i swydd tra’i fod o’n cael ei ymchwilio, ond chafodd yr unigolyn hwnnw ddim ei enwi.