Mae lleian yn ei 70au wedi cael ei threisio gan giang o ddynion, wrth iddi geisio eu rhwystro nhw rhag lladrata o ysgol genhadol yn nwyrain India.

Mae’r lleian wedi’i chludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol, yn dilyn yr ymosodiad gan saith neu wyth o ladran yn ardal Nadia o dalaith Gorllewin Bengal.

Mae heddlu’n chwilio am y criw a ddihangodd gydag arian, ffôn poced, gliniadur a chamera oedd yn perthyn i’r ysgol.