Y Kremlin ym Moscow (o wefan Wikipedia)
Mae dau ddyn wedi cael eu harestio a’u cadw yn y ddalfa ar amheuaeth o lofruddio’r gwleidydd Boris Nemtsov yn Rwsia.

Roedd Nemtsov yn un o ffigurau blaenllaw’r wrthblaid yn Rwsia, ac yn ddraenen barhaus yn ystlys yr Arlywydd Vladimir Putin.

Cafodd ei saethu wrth iddo gerdded dros bont gerllaw’r Kremlin ym Moscow wythnos yn ôl.

Mewn cyhoeddiad ar wasanaeth teledu’r wlad, cyhoeddodd Alexander Bortnikov, pennaeth gwasanaeth diogelwch Rwsia, fod Anzor Gubashev a Zaur Dadayev yn cael eu cadw yn ddalfa ar amheuaeth o lofruddio Nemtsov.