Lluniu teledu cylch cyfyng o'r tair merch ym maes awyr Gatwick ar eu ffordd i Istanbul
Mae teuluoedd y merched ysgol a aeth i Syria yn cyhuddo Heddlu Llundain o fod yn esgeulus wrth beidio â gwneud ymdrech ddigonol i’w rhybuddio.

Roedd yr heddlu wedi anfon llythyr at y tair merch yn gofyn am gyfweliad ynghylch un o’u ffrindiau a aeth i Syria ym mis Rhagfyr, ond y cyfan a wnaeth y merched oedd ei guddio yn eu llyfrau ysgol.

Yn ôl y rhieni, dylai’r llythyr fod wedi cael ei gyflwyno’n uniongyrchol iddyn nhw.

Fe wnaeth Shamima Begum, Amira Abase, ill dwy yn 15 oed, a Kadiza Sultana, 16 oed, cyd-ddisgyblion mewn ysgol yn Bethnal Green, Llundain, hedfan o faes awyr Gatwick i Istanbul y mis diwethaf, a’r ofnau yw eu bod yn Syria gyda gwrthryfelwyr Islamic State erbyn hyn.

Dywed Abase Hussein, tad Amira, y byddai ei ferch yn dal adref petai wedi gweld rhybudd yr heddlu.

“Petaen ni’n gwybod, fyddai hyn ddim wedi digwydd,” meddai. “Fe fydden ni wedi eu rhwystro nhw. Fe fydden ni wedi trafod y mater ac wedi cymryd eu pasports oddi wrthyn nhw.”

Cadarnhau

Mae Scotland Yard wedi cadarnhau iddyn nhw anfon llythyrau i’r tair merch ar ôl i’w ffrind ddiflannu. Dywed yr heddlu mewn datgniad:

“Mae’r heddlu wedi bod yn trafod gyda staff yn ysgol y merched ers mis Rhagfyr 2014 fel rhan o ymchwiliad i ddiflaniad eu ffrind.

“Doedd dim byd i awgrymu bod y merched eu hunain mewn perygl, ac yn wir roedd eu diflaniad yn syndod mawr, gan gynnwys i’w rhieni.

“Rydyn ni’n parhau i gyd-drafod â’r ysgol a’r awdurdod addysg lleol fel rhan o’r ymchwiliad sy’n dal i fynd ei flaen.”