Mae llywodraeth Syria’n cael ei chyhuddo o ollwng bomiau ar y brifddinas, Aleppo, gan ladd beth bynnag 10 o bobol ac anafu nifer o bobol eraill.
Fe syrthiodd bom ar siop sy’n gwerthu tanwydd, meddai llygad dystion, gan achosi tân a losgodd nifer o bobol ddiniwed yn yr ardal.
Mae beth bynnag ddeg o bobol wedi’u lladd yn ardal Qadi Askar, meddai pobol leol, ond mae arsyllwyr rhyngwladol yn y wlad yn dweud bod cymaint â 18 wedi marw.