Mae Liberia wedi anfon adref y claf olaf sy’n diodde’ o Ebola yn y wlad – athrawes Saesneg 58 mlwydd oed.
Fe gafodd Beatrice Yardolo ei hanfon adref o’r ganolfan driniaeth yn ardal Paynesville yn y brifddinas, Monrovia, ac mae wedi bod yn siarad gyda newyddiadurwyr am fod “yn un o’r bobol hapusaf ar wyneb daear”.
Roedd wedi ei chludo i’r ganolfan driniaeth ar Chwefror 18.
Yn y cyfamser, mae awdurdodau’r wlad wedi cadarnhau nad oes un claf arall yn Liberia sy’n diodde’r o’r afiechyd ar hyn o bryd. Os bydd yn gallu mynd am 42 diwrnod heb unrhyw achos newydd, fe fydd y Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn gallu rhoi statws rhydd o Ebola i’r wlad.