Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd Cyngor Sir Powys yn sefydlu gweithgor fydd yn mynd i’r afael â dirywiad nifer y siaradwyr Cymraeg yn y Sir.

Meddai Elwyn Vaughan ar ran cangen Maldwyn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

“Mae’n dda iawn yw clywed addewid cyhoeddus gan y Cyngor i weithredu er lles y Gymraeg. Rydym yn croesawu sefydlu’r gweithgor yma – yn wir, mae’n hen bryd! Rydym yn falch o glywed, hefyd, y bydd yn weithgor trawsbleidiol sydd yn edrych ar bob agwedd o waith y Cyngor.

“Gydag ymweliad yr Eisteddfod fis Awst, bydd llygaid Cymru ar Gyngor Sir Powys a sefyllfa’r Gymraeg yma,” meddai Elwyn Vaughan wedyn.

“Mae’n hanfodol, felly, bod y gweithgor yn symud yn gyflym o drafod i weithredu. Dylai’r gweithgor cyhoeddi cyn yr Eisteddfod beth maen nhw’n bwriadu ei wneud yn ymarferol mewn meysydd fel cynllunio ac addysg – felly rhaid gofyn beth yw amserlen weithredu’r Gweithgor?

“Ni allwn ddisgwyl chwe mis arall tan y cyhoeddiad nesa’.”