Mae Llywodraeth Cymru,wedi cyhoeddi cyllid o £20 miliwn tuag at rhaglen newydd i sicrhau twf mewn busnesau yng Nghymru er mwyn datblygu syniadau a chynnyrch newydd.

Bydd y rhaglen Arloesi SMART yn helpu busnesau i gael gafael ar gymorth ariannol ar gyfer ymchwil a datblygu; darparu cyngor a chefnogaeth arbenigol; a sicrhau bod prifysgolion a’r sectorau cyhoeddus a phreifat yn cydweithio i gynnig cynnyrch, prosesau a gwasanaethau newydd ac arloesol.

Rhoddodd y rhaglen flaenorol gymorth i fusnesau Cymru gynyddu’n sylweddol eu lefelau ymchwil a datblygu, gan roi help llaw i fwy na 1,200 o fusnesau a datblygu tua 950 o gynnyrch a phrosesau newydd a gwell.

Dywedodd y Gweinidog Edwina Hart mai’r bwriad yw cynorthwyo busnesau i greu cynnyrch newydd, gan annog cydweithrediad gyda’r byd academaidd. “Er lles economi Cymru yn y tymor hir, mae’n hanfodol bod busnesau Cymru yn buddsoddi mewn ymchwil a datblygu.”

Bydd y rhaglen Arloesi SMART yn cael ei hariannu gyda £12 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ac £8 miliwn gan Lywodraeth Cymru.