Fe all Cernyw gael mwy o bwerau, yn debyg i’r rhai yng Nghymru, fel rhan o gytundeb datganoli’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ôl arweinydd y blaid.

Wrth ymweld â Chernyw ar Ddiwrnod Sant Piran, dywedodd Nick Clegg y gall Senedh Kernow gael mwy o lais mewn materion fel iechyd, addysg a pherchnogaeth tai pe bai ei blaid mewn grym ar ôl yr etholiad.

Mae disgwyl i’r cynnig blesio cefnogwyr plaid Mebyon Kernow, sydd wedi ffynnu yn ddiweddar o dan gynlluniau i roi mwy o bwerau i bobol Cernyw.

“Yn y senedd nesaf, byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gosod cyfraith newydd – Mesur Caniatáu Datganoli – a fyddai’n golygu bod Cernyw yn medru mynd a chyfreithiau Cernyweg i senedd, yn debyg i’r hyn sy’n digwydd yng Nghrymu,” meddai’r Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg.

“Fe all trigolion ddewis cael rheolau gwahanol i Loegr mewn meysydd fel addysg, gwasanaethau iechyd, a thrafnidiaeth.”

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi bod yn boblogaidd yng Nghernyw dros y blynyddoedd.