Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod yn buddsoddi gwerth £6.245 miliwn i ailwampio sustemau technoleg gwybodaeth awdurdod iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y gogledd.
Bydd y nawdd yn caniatau i’r bwrdd iechyd greu trefn weinyddol newydd ar gyfer cleifion, a fydd yn cofnodi manylion ymweliadau ysbyty i gleifion, yn cynnwys nodi rhestrau aros, cofnodion meddygol, triniaeth cleifion mewnol a chleifion allanol, ac ymweliadau brys.
Bydd yn cymryd lle nifer o sustemau technoleg gwybodaeth sydd yn cael eu defnyddio yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd, a fydd yn gwella cyfathrebu clinigol rhwng ysbytai, meddygfeydd a gofal cymuendol.
Bydd hefyd yn gwella mynediad i’r porth clinigol Cymreig, sy’n rhoi hwyluso’r modd y mae staff yn cael canlyniadau prawf, gan arbed amser, gan leihau’r angen am gofnodion papur.
Buddsoddiad
Dywedodd y Gweinidog, Vaughn Gething, “Bydd y buddsoddiad hwn yn creu sustem technoleg gwybodaeth fodern, gan wneud hi’’n haws i staff weithio yn effeithiol, er mwyn lleihau’r amser ar wahanol sustemau
“Bydd hefyd yn gwella y modd y mae staff yn rheoli gwybodaeth yn ystod y daith trwy’r ysbyty i’r amser y maen nhw’n cael eu rhyddhau o’r ysbyty.”