Mae llysfrawd y ferch 16 oed, Becky Watts a ddiflannodd o’i chartref ym Mryste fwy nag wythnos yn ôl wedi ymddangos yn Llys Ynadon Bryste ar gyhuddiad o’i llofruddio.
Cafodd Nathan Matthews, 28 oed, ei gadw yn y ddalfa ar ôl iddo gadarnhau ei enw a’i gyfeiriad yn y gwrandawiad y bore ‘ma.
Bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Bryste drwy gyswllt fideo yfory.
Fe wnaeth partner Nathan Matthews , Shauna Hoare 21 oed, hefyd ymddangos yn y llys yn cael ei chyhuddo o newid cwrs cyfiawnder. Fe fydd hi’n ymddangos yn Llys y Goron Bryste ar 2 Ebrill.
Mae pedwar dyn a dynes arall yn eu hugeiniau wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.
Echdoe, fe gyhoeddodd Heddlu Avon a Gwlad yr Haf eu bod wedi dod o hyd i ddarnau o gorff mewn tŷ yn y ddinas wrth chwilio am Becky Watts.
Dyw’r ferch ysgol ddim wedi cael ei gweld ers iddi adael ei chartref yn ardal St George o Fryste ar 29 Chwefror