Gordon Brown - sedd Kirkcaldy a Cowdenbeath
Mae darogan y bydd yr SNP yn ennill y sedd sydd wedi cael ei chadw gan Gordon Brown ers yr 1980au cynnar, yn ôl arolwg barn newydd sydd wedi’i gyhoeddi neithiwr.

Pe bai’r blaid genedlaetholgar yn cipio sedd Kirkcaldy a Cowdenbeath Gordon Brown yn yr etholiad nesaf, byddai’n achosi “daeargryn gwleidyddol” yn yr Alban meddai papur y Scotsman.

Awgrymodd yr arolwg barn bod cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Charles Kennedy hefyd yn wynebu colli ei sedd yn Ross, Skye a Lochaber ac unig AS Ceidwadol yr Alban, David Mundell, yn wynebu colli yn Dumfriesshire, Clydesdale a Tweeddale, gyda 13.5% o gefnogaeth i’r SNP .

Cyfartal â Llafur

Mae disgwyl i blaid Nicola Sturgeon ddod i’r brig hefyd yn ne orllewin Caeredin – sedd sy’n cael ei dal gan arweinydd ymgyrch ‘Na’ Alistair Darling cyn iddo ymddiswyddo ym mai Mai – gan olygu bod y blaid Lafur a’r SNP yn gyfartal yn San Steffan.

Cafodd yr arolwg barn ei gyhoeddi gan yr Arglwydd Ashcroft, ar ol holi 1,000 o bobol mewn wyth rhanbarth yn yr Alban.