Leanne Wood
Fe all Cymru chwarae rhan “allweddol” yng nghanlyniad yr Etholiad Cyffredinol, yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Ar drothwy cynhadledd y Blaid dros y penwythnos, dywedodd bod gan y cenedlaetholwyr gyfle i wneud i’r wlad “gyfri” eleni.

Mae hi hefyd yn disgwyl cynyddu nifer Aelodau Seneddol ei phlaid i fwy na thri gan ddatgan ei bod hi “disgwyl i’n cefnogaeth ni gryfhau”.

Pryder am Arfon

Mae’n glir bod rhai ffigurau blaenllaw Plaid Cymru’n bryderus y gallai Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams, golli ei sedd.

“Mae’r newid ffiniau yn y sedd honno’n gwneud hi’n sialens, does dim amheuaeth am hynny,” meddai Leanne Wood. “Ond mae Hywel Williams a’i dim yn gweithio’n hynod o galed.”

Cofio Valentine

Gan gyfeirio at Lewis Valentine, ymgeisydd seneddol cynta’ Plaid Cymru yn 1929, dywedodd Leanne Wood: “Mae hi’n 86 mlynedd ers i ni gynnig ymgeisydd am y tro cyntaf a Chaernarfon oedd y sedd gyntaf. Ar y pryd roedd yna Senedd grog ac mae pobol yn rhagweld y bydd Senedd grog arall ar ôl yr etholiad yma.

“Fe all Cymru brofi’n allweddol o ran y canlyniad.

“Mae gyda ni gyfle i wneud i Gymru gyfri yn yr etholiad yma oherwydd y posibiliadau o Senedd grog mewn ffordd nad oedden ni’n gallu o’r blaen. Fe fyddwn yn rhoi dewis arall i lymder. Fel arall mae yna siec blanc i doriadau pellach i Gymru gan bod pleidiau eraill gan eu bod wedi ymrwymo i gyni.”

Pe bai Cymru’n cael “cydraddoldeb gyda’r Alban”, yn ôl Leanne Wood, fe fyddai £1.2bn o arian ychwanegol yn dod i goffrau’r wlad.

Canlyniad hynny fyddai “diwedd ar gyni a stopio toriadau pellach,” meddai, gan fuddsoddi’r arian mewn gwasanaethau cyhoeddus a’r economi.

Gobaith am fwy o sylw

Un o’i rhesymau tros ddadlau y byddai Plaid Cymru’n ennill tir oedd y gobaith am fwy o sylw nag arfer.

“R’yn ni wedi bod dan anfantais yn y gorffennol ar lefel San Steffan, o ran cyhoeddusrwydd, felly dw i wedi fy nghalonogi ein bod yn rhan o’r dadleuon teledu os ydyn nhw’n digwydd.

“Mae hynny’n gyfle grêt i ni gyrraedd pobol y ry’n ni wedi gweld yn anodd ei wneud o’r blaen. O ganlyniad, fe fyddwn i’n disgwyl i’n cefnogaeth i gryfhau.”