Mae milwyr Irac wedi bod ymladd ag eithafwyr y Wladwriaeth Islamaidd (IS)  i geisio ail-gipio tref Tikrit, cyn-gartref yr arlywydd Saddam Hussein.

Dywedodd swyddogion yng ngogledd Irac fod milwyr y wlad wedi bod yn ymladd yn ffyrnig y tu allan i dref al-Dour i’r de o Tikrit.

Hyd yn hyn fodd bynnag dyw milwyr byddin Irac ddim wedi gallu symud yn gyflym tuag at Tikrit, a hynny oherwydd ffrwydradau gafodd eu gosod ar ochr y ffordd.

Hon yw ail ddiwrnod ymgais y llywodraeth i geisio ail-gipio Tikrit, gafodd ei feddiannu gan ymladdwyr IS haf diwethaf.

Mae’n debyg bod milwyr o lwythau Shiaidd a Swnni yn rhan o ymdrechion byddin Irac i gymryd y dref.