Un o'r plismyn sy'n rhan o'r ymdrech i chwilio am Becky Watts
Mae Heddlu Avon a Gwlad yr Haf wedi cyhoeddi eu bod wedi dod o hyd i weddillion corff yn ystod y chwilio am y ferch 16 oed, Becky Watts.
Cafodd dyn 28 oed a dynes 21 oed eu harestio ddoe ar amheuaeth o’i llofruddio. Maen nhw’n parhau yn y ddalfa.
Cafodd Becky Watts ei gweld y tro diwethaf yn ei chartref yn Crown Hill, St George ym Mryste ar 19 Chwefror.
Roedd Becky wedi gadael ei chartref gyda’i ffon, gliniadur a chyfrifiadur ond nid oedd hi wedi dweud wrth ei theulu na’i ffrindiau lle’r oedd hi’n mynd.
Mae’r heddlu wedi bod yn chwilio amdani ers i’w theulu hysbysu’r heddlu ei bod wedi diflannu ar 20 Chwefror.
Mae tad Becky Watts, Darren Galsworthy, a’i llysfam Angie-Mae Galsworthy wedi dweud bod y teulu yn “paratoi am y newydd gwaethaf”.