Mae lluoedd yn Irac wedi cychwyn ymgyrch enfawr i geisio ail-feddiannu dinas Tikrit, cyn-gartref Saddam Hussein, sydd wedi’i meddiannu gan wrthryfelwyr y Wladwriaeth Islamaidd (IS).
Yn ôl adroddiadau lleol, mae’r lluoedd yn ymosod ar Tikrit ar droed ac o’r awyr.
Fe wnaeth Tikrit, sydd tua 80 milltir i’r gogledd o Baghdad, syrthio i ddwylo gwrthryfelwyr yn ystod haf 2014, ynghyd ag ail ddinas fwyaf Irac, Mosul.
Cyn yr ymgyrch, fe wnaeth Prif Weinidog y wlad Haider al-Abadi gwrdd ag arweinwyr milwrol yn ardal Salahuddin.
Mae Irac wedi ei rannu’n ddwy gan wrthryfelwyr Swnni, oedd yn gefnogol i Saddam Hussein, a’r mwyafrif Shiaidd ond mae’r cyd-weithio rhwng y ddwy ochr heddiw yn cael ei weld fel datblygiad pwysig yn erbyn IS.