Mae timau arbenigol yr heddlu sy’n ymchwilio i ddiflaniad merch 16 oed ger Bryste wedi bod yn chwilio dau dŷ ger ei chartref.

Mae cwn Heddlu De Cymru yn rhan o’r chwilio am Rebecca Watts ac fe gafodd gweithwyr fforensig mewn siwtiau gwyn eu gweld yn gadael tŷ yn Wilton Close yn y ddinas gyda dwy fag.

Mae adroddiadau’n dweud bod gwrthrych mawr tebyg i gasgen hefyd wedi cael ei symud o’r tŷ.

Cafodd tŷ arall yn Cotton Mill Lane, Barton Hill ei archwilio yn ôl y Bristol Post.

Vauxhall Zafira du

Nid yw Rebecca Watts wedi cael ei gweld ers 19 Chwefror ac mae dau berson wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â’i diflaniad.

Mae Heddlu Avon a Gwlad yr Haf yn dweud eu bod wedi cael 36 awr ychwanegol i holi’r ddau berson.

Maen nhw hefyd yn awyddus i gael gwybodaeth am symudiadau car Vauxhall Zafira du, gyda’r rhif HY06 HYA rhwng Chwefror 19 a Chwefror 23.

Ers iddi ddiflannu, mae cannoedd o bobol wedi bod allan ar y strydoedd yn chwilio am Rebecca Watts, neu Becky – sy’n cael ei disgrifio fel merch 5 troedfedd 4 modfedd, gyda gwallt hir coch.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth amdani i gysylltu â’r heddlu ar 101.