Cynlluniau ar gyfer lagwn Abertawe
Fe all pedwar o lagwnau llanw trydanol cyntaf y byd gael eu hadeiladu ar arfordir Cymru, yn ôl cynlluniau newydd sy’n cael eu datgelu heddiw.
Mae cwmni Tidal Lagoon Power wedi dechrau’r broses o wneud cais cynllunio ar gyfer lagŵn 90 tyrbin gwerth £6 biliwn rhwng dociau Caerdydd ac i’r gorllewin o aber afon Wysg.
Fe all y lagwnau eraill gael eu lleoli ger Casnewydd a Bae Colwyn, ac mae cynlluniau ar gyfer lagŵn gwerth £1 biliwn yn Abertawe eisoes wedi cael eu cyflwyno.
Bwriad Tidal Lagoon Power yw dechrau diwydiant ynni o’r môr yng Nghymru ac mae’r cwmni yn amcangyfrif y gallai chwe lagŵn gynhyrchu 10% o holl anghenion ynni’r DU, petai’r cynlluniau yn cael caniatâd.
Fodd bynnag mae pryderon am effaith y datblygiadau ar yr amgylchedd, yn benodol ar rywogaethau o bysgod yn aber Afon Hafren.
‘Cyfle mawr’
Wrth ymateb i’r difrod posib i’r amgylchedd, dywedodd Eryl Vaughan, prif weithredwr cwmni ynni llanw gogledd Cymru, North Wales Tidal Energy & Coastal Protection:
“Rydym yn gweithio’n agos iawn hefo’r Llywodraeth a nifer o gyrff eraill ac mae rhan uchel iawn o gost y cynllun yn mynd i gefnogi ymchwil – fel ein bod ni’n deall beth yw’r effeithiau ar rywogaethau fel pysgod,” meddai wrth siarad ar Radio Cymru’r bore ’ma.
“Ond mae’r morlynnoedd yma yn creu cyfleoedd mawr i ddatblygu pethau fel pysgodfeydd ac mae modd datblygu’r diwydiant o fewn y morlun ei hun.”
Mae Roger Falconer, Athro Peirianneg Dwr a Hydroleg ym Mhrifysgol Caerdydd, hefyd wedi codi amheuon am effaith llifogydd yng Nghaerloyw – ond yn gweld “cyfleoedd mawr” yn ardal Bae Colwyn a’r Rhyl, lle gallai lagŵn helpu i atal llifogydd.
Y cam nesaf
Mae Tidal Lagoon Power yn aros i glywed a fydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn rhoi sêl bendith i lagŵn Abertawe, ond fe fyddai lagŵn Caerdydd yn ddatblygiad teirgwaith yn fwy.
Y cam nesaf, yn ôl Prif Weithredwr Tidal Lagoon Power, Mark Shorrock, fydd cynnal trafodaethau gyda’r Arolygaeth Gynllunio, 15 mis o gynnal arolygon cyn cyflwyno cais cynllunio.