Gwrthryfelwyr sy'n cefnogi Rwsia yn codi bariced tu allan i adeiladau llywodraeth yr Wcrain
Mae dros 6,000 o bobol wedi cael eu lladd yn nwyrain yr Wcráin ers i’r gwrthdaro yn y wlad ddechrau bron i flwyddyn yn ôl, cyhoeddodd swyddfa hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig heddiw.

Yn yr wythnosau diwetha’ yn unig, mae cannoedd o bobol gyffredin a milwyr wedi cael eu lladd wrth i densiynau ddwysau yn ardal Debaltseve a maes awyr Donetsk.

Daeth ymchwiliad gan swyddogion y Cenhedloedd Unedig i’r casgliad bod y gwrthdaro wedi “difetha bywydau aelodau o’r cyhoedd yn ogystal ag isadeiledd” yn yr ardaloedd sy’n gweld y mwyaf o drais wrth i wrthryfelwyr sy’n cefnogi Rwsia frwydro a lluoedd yr Wcrain.

Mae Rwsia yn gwadu bod ganddyn nhw filwyr ar diroedd yr Wcrain, ond mae’r CU wedi awgrymu bod “adroddiadau o arfau trwm a milwyr o dramor” yn dangos y gwrthwyneb ers mis Rhagfyr.